Rydym yn credu bod y Beibl yn llawn newyddion da. Y newyddion gorau! Mae’r efengyl yn dangos i ni fod Duw yn caru pawb - pob dyn, dynes a phlentyn.
“Do, carodd Duw y byd gymaint nes iddo roi ei unig Fab, er mwyn i bob un sy’n credu ynddo ef beidio â mynd i ddistryw ond cael bywyd tragwyddol.” (Ioan 3:16)
Mae’r adnod hon yn crynhoi'r newyddion da yr ydym yn credu y dylai fod pob plentyn a pherson ifanc gael y cyfle i wrando, ac i archwilio.
Er mwyn darganfod mwy am yr hyn rydym yn credu ynddo, edrychwch ar ein datganiad o ffydd
Ein gwerthoedd
Ynghyd â’n credoau, mae ein gwerthoedd yn tanategu’r cyfan rydym yn ei wneud...
Rydym yn gofalu. Rydym yn gofalu’n fawr am yr holl blant a phobl ifanc.
Rydym yn rhannu. Rydym yn rhannu newyddion da Duw.
Rydym yn awdurdodi. Rydym yn cynnig dewisiadau a chyfleoedd.