Scripture Union Cymru yw’r enw ar waith SU yng Nghymru. Rydym yn gweithio i ddatblygu digwyddiadau, gwyliau, adnoddau a syniadau ar gyfer gwaith Ysgol a Chymuned. Rydym hefyd yn cefnogi Partneriaid Cenhadol Lleol. Mae adnoddau Cymraeg gan Scripture Union Cymru ac rydym wrthi yn datblygu mwy o adnoddau allweddol SU yn y Gymraeg.
SU Cymru

Darllenwch hwn yn Saeseneg/ Read this in English
Mae tîm Cymru yn weithgar yn helpu plant a phobl ifanc i ddarganfod y gwahaniaeth y gall Iesu ei wneud yn eu bywydau.
Rydym yn gweithio yn Gymraeg a Saesneg mewn Ysgolion a Chymunedau ynghyd a’r Eglwys leol.
Rydym yn hoffi cynnal digwyddiadau tymhorol megis y Nadolig a’r Pasg a chyrraedd pobol ifanc trwy Chwaraeon a hyd yn oed Ap Scripture Union - Guardians of Ancora/Arwyr Ancora, sydd bellach ar gael yn Gymraeg a Saesneg.
Fel pawb arall yn SU, rydym yn bryderus am y ffaith nad yw 95% o blant a phobl ifanc yng Nghymru a Lloegr yn mynychu’r eglwys. Hoffem i’ch eglwys chi fod yn rhan o newid yr ystadegyn hwn trwy ddod gyda ni i gyraedd plant sydd heb glywed yr Efengyl hyd yn hyn. Gadewch i ni adeiladu pontydd o’n hysgolion a’n cymunedau i’n heglwysi. Gyda’n gilydd, gallwn wneud gwahaniaeth.
Cwrdd a tîm SU Cymru

Adnoddau Cymraeg
Mae gennym adnoddau gwych ar gyfer eich gwaith chi yn y Capel neu'r Eglwys, mewn ysgolion neu allan yn y gymuned. Os ydych chi angen gwybod mwy am rhain cysylltwch gyda ni.
Stori Wir

Adnodd sydd wedi cael ei greu ar gyfer pobl ifanc sy'n chwilio am atebion i gwestiynnau mawr bywyd. Mae'n mynd ati mewn ffordd anffurfiol a rhyngweithiol i gyflwyno'r hyn y mae Cristnogion yn ei gredu yw gwir ystyr bywyd. I gyd fynd gyda'r llyfryn, crewyd fideos byrion o bobl ifanc yn rhannu eu cwestiynau am Gristnogaeth, ac atebion am beth mae Cristnogion yn ei gredu. Mae rhai o'r fideos yn rhannu eu stori nhw am sut y gwnaethon nhw ddod i gredu yn Iesu.