Ymunwch â ni wrth i ni fynd at blant mewn mannau heb eu cyffwrdd gan yr efengyl.
Mae ymchwil diweddar yn amcangyfrif nad yw 95% o blant a ieuenctid Cymru a Lloegr yn mynychu eglwys ar y Sul.
Mae hyn yn golygu bod tasg anferth yn wynebu ein heglwysi yma yng Nghymru.
Mae Scripture Union Cymru am wneud ein rhan i weld newid yn yr ystadegau yma. Felly rydym ni angen cydweithio gyda eglwysi ar draws Cymru.
Buasem yn hoffi eich cymorth i gyrraedd y 95% drwy strategaeth tri cham.
Cam 1. Cyflwyniad 30 munud yn rhannu gweledigaeth SU Cymru, gan rhannu gwybodaeth ac annog pobl i weddio, gweithredu a chefnogi. Gellir cyflwyno hyn o fewn eich Eglwys mewn gwasanaeth ar y Sul, cyfarfod canol wythnos, neu hyd yn oed mewn grwp ty.
Cam 2. Gweithdy dilynol gyda grwp o bobl a cafodd eu hysbrydoli i wneud rhywbeth o cam 1. Byddai amser o weddi yn cael ei gynnal cyn i ni edrych ar angenion a chyfleoedd yn eich ardal a phenderfynu lle dylem gydweithio a hoelio’n sylw. Bydd y gweithdy yma yn cael ei gynnal am 1 ½ i 2 awr.
Cam 3. Gweithredu! Byddem wedi cael ein hysbrydoli a’n herio, wedi gweddio a chynllunio, ac rwan mae’n amser i ni weithredu drwy genhadaeth a gweithgareddau newydd. Yr amcan yw lawnsio gwaith y gallwch chi fel eglwys leol ei ddatblygu a’i gynnal. Buasem wrth ein boddau pe baem yn cael eich cynorthwyo fel ein bod yn gallu dysgu gyda’n gilydd a datblygu a chynnal enghreifftiau llwyddiannus o genhadaeth.
Gallwch derfynnu’r cynllun unrhyw dro. Er enghraifft, efallai y byddwch eisiau dod i rannu gweledigaeth SU Cymru fel eich bod fel eglwys yn gallu gweddio dros ein gwaith ac anghenion ‘y 95’. Neu efallai yr hoffech dderbyn help wrth feddwl am gyfleoedd cenhadol, ond yn ddigon hapus i’w cynnal eich hunain. Ein gobaith yw ein bod yn cael partneru gyda’ch heglwys ym mha bynnag ffordd sy’n addas ar gyfer eich angenion.
Felly, gall SU Cymru ofyn i chi ystyried ein gwahodd i gyflwyniad chychwynol yn eich heglwys o fewn y flwyddyn nesaf? Os byddai hynny yn iawn ar eich cyfer chi, gallwn weithio gyda’n gilydd i ddatblygu eich cenhadaeth i’r ‘95’ yn eich cymuned.
Diolch am gymryd yr amser i ddarllen hwn; carem ymweld a’ch heglwys a rhannu ein gweledigaeth gyda chi.
Details
- Outreach
- Church & Community,
- School