Football cage

Taith Cawell

Story type:
Region:
  • Wales

Rydym wedi prynu cawell Pêl-droed arbennig yn ddiweddar ac rydym yn awyddus iawn i’w ddefnyddio mewn partneriaeth ac eglwysi i gyrraedd pobl ifanc yn y gymuned.

Cage soccer

Y Taith

Yr haf yma, prynodd SU Cymru gawell chwaraeon i’w ddefnyddio mewn prosiectau allgymorth (outreach) gwahanol ar draws Cymru. Mae eisoes wedi bod yn hynod boblogaidd yn Gwersyll Cleddau lle nad oedd byth yn wag ac mewn prosiect allgymorth yn eglwys Matt Lewis, ein gweithiwr Ysgolion. Mae’n atyniad poblogaidd ac yn adnodd hwyliog iawn sy’n darparu cyfle i ymgysylltu â phobl ifanc sydd ddim yn dod i’r eglwys fel arfer.

Mae nifer o gemau ar gael i’w chwarae yn y cawell, ond y gêm fwyaf poblogaidd hyd yma yw pêl-droed 2 ar 2 – gem gyflym a hwyliog sy’n eich galluogi i gynnal twrnamaint mewn amser byr.

Yn ystod y gwyliau hanner tymor yma bydd Matt a Mike Adams yn mynd a’r gawell ar daith ar draws Gorllewin a De Cymru ac maent yn awyddus iawn i gysylltu gydag eglwysi sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc di-eglwys. Mae rhai dyddiadau eisoes wedi ei bwcio. Os dymunwch i’r tîm a’r cawell ymweld â’ch eglwys a phartneru gyda chi, yna cysylltwch ac unai Mike neu Matt ar y manylion isod os gwelwch yn dda:

Mike Addams

Mike Adams (Cymraeg)

Gweithiwr Datblygu Ysgolion Gorllewin a Chanolbarth Cymru.

Mae gan Mike lu o brofiad fel gweithiwr ieuenctid ac efengylydd - yn flaenorol roedd yn Gyfarwyddwr Cenedlaethol i sefyliad cenhadol World Horizons yn Llanelli. Mae Mike yn siarawr Cymraeg iaith gyntaf.
Mae Mike yn dal i weithio’n rhan amser gyda World Horizons, yn datblygu cenhadaeth i bobl rhyngwladol sy’n byw yn Abertawe gan gynnwys myfyrwyr a ffoaduriaid. Mae’n gweithio tri diwrnod yr wythnos gyda Scripture Union fel Gweithiwr Datblygu (Ysgolion Cymraeg), ac fel ein holl Weithwyr Datblygu mae’n datblygu ein cenhadaeth mewn Ysgolion a Chymunedau, ond mae ganddo fwriad penodol o sicrhau bod ein hadnoddau yn briodol, perthnasol ac ar gael i’r 500+ o Ysgolion Cymraeg yng Nghymru.

Y Tîm

Cysylltwch â unrhyw un o’n tîm drwy ddilyn y linc isod a dewis aelod o’r tîm!

Details

Language:
  • Welsh/Cymraeg
  • Topic:
    • Community,
    • Sport
    Purpose:
    • Outreach
    Context:
    • Church & Community,
    • Sport

    The 95 block

    Together, we can reach the 95% of children and young people not in church

    Get involved