Ancora Background

Arwyr Ancora yn cyraedd!

Ar dydd Llun 29 Mai 2017, 10.30 bydd Scripture Union yn rhyddhau ap Cymraeg arbennig i blant rhwng 7 a 13 oed, sef addasiad o Guardians of Ancora, a gyhoeddwyd yn wreiddiol 18 mis yn ôl, ac sydd wedi ennill ei le fel y prif ap gemau Cristnogol i blant ledled y byd.

Beth yw Arwyr Ancora?

Map byd Ancora

Mae Ap Beiblaidd newydd i blant ar gael yn y Gymraeg erbyn hyn, sef Arwyr Ancora. Fersiwn Cymraeg o Ap Beiblaidd Guardians of Ancora, a ddatblygwyd gan Scripture Union, yw Arwyr Ancora. Hwn yw yr Ap mwyaf uchelgeisiol yn y Gymraeg, ac wedi ei anelu ar gyfer plant 7-12 oed. Mae yn ffrwyth cydweithio rhwng Scripture Union a nifer o’r enwadau a mudiadau Critnogol yng Nghymru.

Mae’r Ap Guardians of Ancora, a gyhoeddwyd yn wreiddiol gan Scripture Union yn 2015 wedi ennill ei le fel y prif ap gemau Cristnogol i blant ledled y byd, ac eisoes wedi gweld dros miliwn o blant yn cofrestru fel chwaraewyr.

Mae’r Ap yn cynnwys anturiaethau a gemau sy’n tywys yr Arwyr i mewn i fyd y Beibl, gan eu cyflwyno i gymeriadau dychmygol fel Ffabwla a’r Urddfeistr, sydd, yn eu tro, yn cyflwyno’r Arwyr i gymeriadau pwysig yn y Beibl. Trwy gwblhau tasgau arbennig mae gwobrau fel ffilmiau bonws i’w hennill.

O fewn yr ap...

Storiau Ancora

O fewn yr Ap mae 11 cwest Beiblaidd, gyda storïau, cwisiau, ffilmiau i’w gwylio a gemau i’w chwarae. Tra mae byd Ancora a’i gymeriadau, fel Ffabwla, Macsen, y Sbarbwch, y Sbarcod a’r Urddfeistr i gyd yn ddychmygol, mae’r storïau a gyflwynir i gyd o’r Beibl, ac yn ffyddlon a chywir i’r storïau gwreiddiol. Pan mae’r chwaraewr yn derbyn yr her i fynd ar gwest i ddod o hyd i stori er mwyn ei dychwelyd i’r Goleudwr yn Ancora, stori o’r Beibl yw honno bob tro. Cyflwynir 11 stori o fywyd Iesu o fewn yr Ap, sef:

  • Hanes y Nadolig – angylion a bugeiliaid
  • Tŷ Pedr
  • Gweddi – sut i sgwrsio gyda Duw?
  • Hanes Iesu a Jairus
  • Hanes Iesu a’r pysgotwyr
  • Hanes Iesu a’r swyddog Rhufeinig
  • Hanes Iesu’n bwydo’r dorf
  • Hanes Iesu yn maddau ac iacháu
  • Hanes y Pasg: y ffordd i’r groes, ac Mae Iesu’n fyw!

 

Adnoddau

GoA-playing-the-game

Mae’r gêm ar gael yn rhad ac am ddim i’w lawrlwytho a’i ddefnyddio. Mae modd chwarae’r gêm ar unrhyw ddyfais llechen gymharol ddiweddar sy’n rhedeg meddalwedd iOS neu Android, gan gynnwys: iPad, Sony Xperia, Samsung Galaxy, LG GPad, Tesco Hudl2 ac Amazon Kindle Fire. Mae modd ei lawrlwytho hefyd i’ch ffôn symudol wrth gwrs.

Eisoes cyhoeddwyd rhai adnoddau Ancora, gan gynnwys dau gomic Beiblaidd ar gyfer y Nadolig a’r Pasg, a dosbarthwyd tua 15,000 o’r comics hyn i blant dros Gymru, ynghyd â nifer o bethau rhad ac am ddim gan gynnwys breichledau arwyrancora.com, cyfres o 12 cerdyn ac albwm casglu, sticeri a chardiau gwybodaeth.

Mae yna gân arbennig hefyd wedi ei recordio gan Martyn a Meilyr Geraint, sef addasiad o gân Mark Read a Doug Horley ac wedi ei gyfieithu gan Arfon Jones, sef Ni ydy Arwyr Ancora.

Yn ogystal, bydd adnoddau Clwb Gwyliau Arwyr Ancora hefyd ar gael yn y Gymraeg yn fuan, sef Casglu’r Trysor. Ceir tri llyfr yn y gyfres, un llyfr ar gyfer arweinwyr sy’n cynnwys pob peth fydd angen arnoch i gynnwys clwb gwyliau Cristnogol dros gyfnod o wythnos, neu fel pump diwrnod unigol. Mae’r deunydd yn dilyn hanes bywyd Iesu gan gynnwys stori’r Nadolig, ei fywyd a’i weinidogaeth a hanes y Pasg. Ceir hefyd dau lyfr gwaith lliwgar i blant 5-8 oed a 8-11 oed. Gellir hefyd defnyddio hwn fel cynllun gwerslyfrau yn yr Ysgol Sul, ac yn ddelfrydol ei ddefnyddio ochr yn ochr ag offer ipad neu tablet gyffelyb. Mae bwriad hefyd i gynhyrchu deunydd addysgol ar gyfer yr ysgol er mwyn defnyddio’r Ap yn yr ystafell ddosbarth.

Sut i gael yr ap...

Mae yr Arwyr dy eisiau di!

Ewch i wefan www.arwyrancora.com i wybod mwy ac i ddarganfod y linciau i lawrlwytho’r Ap.

The 95 block

Together, we can reach the 95% of children and young people not in church

Join us