Le

SU Cymru

Mae gan Scripture Union faich dros blant a phobol ifanc yng Nghymru. Nod ein gwaith yw ysbrydoli ac arfogi'r eglwys leol i ddatgelu Iesu i blant a phobol ifanc ledled y wlad. 

NAWR YW'R CYFLE

Dandelion clock

Mae yna chwant ysbrydol ymhlith plant a phobol ifanc Cymru.
Rhaid i’r eglwys sefyll lan a chamu allan.

question_mark_tree

Datgelu Iesu - Gyda'n Gilydd

Hoffech chi weld eich capel/eglwys yn gwneud mwy i gyrraedd plant a phobol ifanc eich pentref/tref/dinas?

Ydych chi’n angerddol am waith cenhadol ond dim yn siŵr sut neu ble i ddechau gyda’r hyn sydd (neu falle sydd ddim) gennych?

Hoffech chi gael rhywun i deithio gyda chi yn y gwaith, i weld beth rydych chi’n gwneud yn barod, ble mae’r cyfleodd am ddatblygiad, gweddïo gyda chi dros eich gweledigaeth a gweithio mas sut i ddatgelu Iesu yn eich cyd-destun chi?

Fel tîm Cymru, byddem wrth ein boddau yn addasu ein cefnogaeth i’ch anghenion unigryw yn eich cyd-destun, rhannu syniadau ac adnoddau a allai weithio'n dda yn eich sefyllfa, a hyd yn oed rhoi cynnig ar ffyrdd newydd o gysylltu â phlant a phobl ifanc na fyddai’n cael y cyfle i gwrdd ag Iesu fel arall.

Boed yn wledig, trefol, Cymraeg, Saesneg, gwaith ysgolion, prosiectau cymunedol, gyda phlant, ieuenctid, teuluoedd, ac unrhyw beth rhyngddynt, cysylltwch â ni am sgwrs!

The Revealing Jesus mission framework

Cyrraedd y genhedlaeth nesaf

Dewch i ni ddatgelu Iesu i'r genhedlaeth nesaf - gyda'n gilydd!

Darllenwch mwy am ein fframwaith genhadaeth Datgelu Iesu i ddarganfod mwy am gysylltu, archwilio, ymateb a thyfu mewn ffydd gyda phlant a phobol ifanc.

Os hoffech gael rhywun i gysylltu er mwyn trafod ym mhellach, plîs llenwch y ffurflen a bydd un o'r tîm mewn cysylltiad â chi yn fuan.

Cysylltwch â ni!

CAPTCHA
Please confirm you are a real user, not a robot.

Hanesion calonogol o Dduw ar waith

L-R Jack, Keefe, Rhian, Grace

Mae Duw wrthi'n gwneud gwaith anhygoel ym mywydau plant a phobol ifanc. 

Pob tymor rydym yn cyhoeddi ein cylchlythyr gweddi, sy'n gyfle da i glywed tystiolaethau o Dduw ar waith yn y wlad, cael eich ysbrydoli gan syniadau i drio mas, a chefnogi'r gwaith wrth weddïo drosom yn ystod yr wythnos.

Os hoffech dderbyn cylchlythyr gweddi Tîm Cymru, plîs llenwch y ffurflen isod.

Diolch yn fawr!

Derbyniwch ein Cylchlythyr Gweddi

Group of girls studying their bibles

Cefnogi'r Gwaith yng Nghymru

Byddwn yn ddiolchgar iawn am unrhyw gyfraniad ariannol tuag at ein gwaith yng Nghymru. Bydd eich rhodd yn ein galluogi i:

  • weithio gyda mwy o eglwysi a chapeli ledled Cymru.
  • datblygu rhagor o adnoddau yn Gymraeg.
  • roi mwy o cyfleoedd i blant a phobol ifanc cwrdd ag Iesu.

Cwrdd â'r tîm

Dewch o hyd i'r gweithwyr sy'n gwasanaethu yng Nghymru:

Headshot of Rhian Evans

Rhian Evans

Cydlynnydd Cenhadaeth Genedlaethol Cymru

Mae Rhian yn arwain gwaith Scripture Union yng Nghymru gyda'r weledigaeth i weld gymaint o blant a phobol ifanc yn cael y cyfle i glywed am Iesu, wrth ysbrydoli ac arfogi’r eglwys leol i greu'r cyfle i gyrraedd y plant a phobol ifanc ledled Cymru.

Jack Newbould

Jack Newbould

Ysgogydd Cenhadaeth

Mae Jack yn gweithio ar draw De Cymru i gefnogi capeli ac eglwysi yn eu gwaith cenhadol gyda phlant a phobol ifanc. O'r gogledd yn wreiddiol, mae Jack wedi byw yn Sir Gaerfyrddin am sawl blwyddyn erbyn hyn.

Keefe Owen and his wife

Keefe Owen

Ysgogydd Cenhadaeth

Mae Keefe yn Ysgogydd Cenhadaeth dros y Gogledd a Chanolbarth Cymru. Mae'n ddwli cael anturiaethau yn yr awyr agored ac yn ddysgwr Cymraeg ymroddgar.

Grace Webber

Grace Webber

Gweithiwr Cymorth

Mae Grace yn byw yng Ngogledd Ddwyrain Cymru. Fel gweithiwr cymorth, mae hi'n help enfawr wrth gysylltu â chapeli ac eglwysi ledled Cymru, er mwyn i ni allu cynnig cymorth hirdymor i weinidogaethau plant a phobol ifanc.

Adnoddau Cymraeg

Y Cam Nesaf

Y Cam Nesaf

Connect
8–11 yrs
School
Community

Bargen! Arbedwch £4.50 oddi ar bob becyn o 10

FREE to £27.50
GBLM WELSH Cover

Ac Fe Ddaeth Duw Fel Fi?

Connect
5–8 yrs
8–11 yrs
Church
Community

Mae Ac fe Ddaeth Duw fel Fi? yn adrodd ar…

FREE to £15.50
JDFM WELSH Cover

Bu farw Iesu drosof fi?

Connect
5–8 yrs
8–11 yrs
Church
Community

Mae Bu Farw Iesu Drosof Fi? yn gerdd sy'n…

FREE to £15.50

Support outreach in Wales

Help ensure the team in Wales are supported and resourced to share the good news

 

£3 per month

Donate £3

£12 per month

Donate £12

£21 per month

Donate £21

£35

Donate £35

£140

Donate £140

£250

Donate £250