Beth allech chi wneud os ydach chi'n aelod o eglwys sydd ar hyn o bryd heb unrhyw gysylltiad gyda'r bobl ifanc yn eich cymuned? Beth os wneud mae'r eglwysi eraill yn eich pentref yn yr un sefyllfa? Syt ar y ddaear ydach chi'n dechrau?
Ymestyn allan i'r 95% mewn cymuned wledig, fach.
Bydd rhai ohonoch yn gweld y sefyllfa hon, ble nad oes unrhyw berson ifanc o gwbl yn rhan o'ch eglwys, yn estron iawn i chi. I rhai eraill ohonoch, mae hyn yn sefyllfa real iawn i chi.
Nol yn Chwefror, cafodd Mike Adams, aelod o dim SU Cymru, y cyfle i gyfarfod gydag aelodau o dair eglwys ym Mhenygroes, sydd yn ardal Rhydaman. Roeddynt eisiau gwneud rhywbeth i ymestyn allan i'r 95% o blant a phobl ifanc yn eu cymuned nad oedd gyda chysylltiad, na chwaith yn mynychu, unrhyw un o'r eglwysi yn y pentref.
Roedd yr eglwysi yn awyddus iawn i gyd-weithio er mwyn ymestyn allan i'r bobl ifanc yn eu cymuned. Creuwyd tim o wirfyddolwyr, gan gynnwys gweithwyr ac aelodau o eglwysi Cymraeg y pentref.
Yn ystod hanner tymor mis Chwefror, aeth Mike a'r tim ati i rhedeg cynhadedd 'pop up' ar dir un or capeli, gan osod i fyny'r gawell pel-droed. Yn ogystal, roedd gemau wedi trefnu tu fewn i'r capel a thu allan. Yn ystod y tri phrynhawn cafodd y tim y cyfle i siarad gyda'r bobl ifanc a rhannu'r gwahaniaeth mae Iesu wedi gwneud yn eu bywydau nhw a sut y gall Iesu wneud gwahaniaeth iddynt hwythau hefyd.
Cafodd y tim gysylltiad gyda 17 o bobl ifanc dros y tridiau. Un o bwriadau am y digwyddiad oedd i drafod gyda nhw'r posibilrwydd o ddechrau clwb ieuenctid yn y pentref. Goyda'r bobl ifanc, trafodwyd pa weithgareddau byddent yn hoffi gwneud, a pha bryd fyddai'n gyfleus i redeg clwb. yn bennaf, a oedd diddordeb i gael clwn Cristnogol? Atebwyd gyda 'oes' - roedd yn sicr diddordeb! Dechreuwyd y clwb y nos Sul canlynol, ble daeth dau berson ifanc.
Byddai rhai yn siomedig gyda'r ymateb - one roedd yn gyffroes mynd o gyrraedd dim pobl ifanc i ddau hyd yn oed!Dyblodd y clwb yr wythnos ganlynol, a dyblu eto, ac mae'n parhau i dyfu!
Tair eglwys, gyda dim cysylltiad gyda phobl ifanc, ond gyda chalon i ymestyn allan i'r gymuned gyda'r newyddion da Iesu Grist. Nawr, ychydig wythnosau yn ddiweddarach, maent yn rhan o dyfu gweinidogaeth cyd-enwadol i ieuenctid.
Details
- Community
- Outreach
- Church & Community