Rooted Cynradd Canllaw i Arweinwyr

Search all resources
Rooted Cynradd Canllaw i Arweinwyr

Mae Rooted Cynradd yn cynnig dull newydd a gwahanol ar gyfer gweinidogaeth plant trwy greu lle i blant rhwng 8 ac 11 oed archwilio pwy ydyn nhw, pam maen nhw'n bwysig a'r gwahaniaeth y gall Iesu ei wneud. Mae Rooted Cynradd yn darparu sylfeini cryf ar gyfer meithrin ffydd ddilys gydol oes.

Mae'r adnodd 64 tudalen hwn yn cynnwys:

• Cwestiynau i'w hystyried cyn cychwyn ar eich taith Rooted Cynradd.

• Amlinelliadau ar gyfer deg sesiwn i'ch helpu chi i strwythuro a chynllunio'ch taith Rooted Cynradd gyda grŵp o blant.

• Sesiynau sy'n archwilio themâu megis hunaniaeth, hunan-werth a breuddwydio'n fawr.

• Gweithgareddau sy'n rhoi lle i blant fyfyrio a thurio'n ddyfnach i'w taith ffydd.

• Awgrymiadau ychwanegol i helpu pob sesiwn redeg yn esmwyth.

• Cyngor ar sut i gysylltu â phlant yn eich cymuned, a digon o syniadau ar gyfer datblygu Hwb Rooted Cynradd hefyd.

Ac, ar ôl y sesiynau hyn, nid yw Rooted Cynradd yn stopio – a dweud y gwir, dim ond y dechrau ydyn nhw!

Os penderfynwch gychwyn grŵp Rooted Cynradd yn eich ardal, byddem wrth ein bodd yn clywed sut hwyl a gewch felly cysylltwch â'ch straeon llwyddiant, cwestiynau neu adborth.

Details

Age:
  • 8-11 yrs
Language:
  • Welsh/Cymraeg
  • Content type:
  • Resource (free)
  • Format:
    • PDF

    The 95 block

    Together, we can reach the 95% of children and young people not in church

    Join us