Beach party

Taith Llusern

Story type:
Region:
  • Wales

Sut gallwn ni rannu Goleuni Iesu mewn modd hwyliog ac addas yng nghanol dathliadau Hydrefol gwahanol? Mae’r Daith Llusern yn un syniad a oedd yn llwyddiannus iawn yng Nghricieth. Roedd yna ‘Ghostbusters’, gemau gwyllt, cŵn poeth, knickerbocker glories, taith gerdded min nos, malws melys wedi eu tostio ar goelcerth ar y traeth a neges i newid bywydau am Iesu darllenwch ymlaen am fwy o wybodaeth..

 

Light Party Pack

Beth ddylem ni wneud am Galan Gaeaf? Mae’n digwydd pob blwyddyn a phob blwyddyn mae siopau’n dechrau gwthio’r nwyddau o ddechrau mis Medi ymlaen. Mae plant yn cael eu hymosod gan wisgoedd, addurniadau, tuniau casglu danteithion a’r danteithion eu hunain! Fel Cristnogion, sut ydym ni yn dal sylw plant, pobl ifanc a’u teuluoedd mewn ffordd sy’n galluogi plant i gael yr elfen honno o hwyl tra hefyd yn clywed am oleuni Iesu Grist? Rydym ni yn SU wedi creu’r pecynnau adnoddau Parti Goleuni sy’n llawn syniadau am wahanol weithgareddau a ffyrdd i gynnal digwyddiad o amgylch Calan Gaeaf fel ffordd i deuluoedd Cristnogol ddod a bod yn rhan o estyn allan i’r gymuned.

Hydref diwethaf, bûm yn gweithio gyda grŵp o eglwysi mewn tref glan y môr bychan yng Ngogledd Cymru o’r enw Cricieth. Mae’r dref wedi cael ei fendithio gan nifer o eglwysi sy’n ceisio ymgysylltu â’u cymuned, yn ogystal â nifer o fusnesau lleol ar stryd fawr Cricieth sydd wedi eu perchnogi gan Gristnogion o wahanol enwadau. Roedden nhw am gael digwyddiad gwahanol i Galan Gaeaf a fyddai’n eu galluogi i weithio gyda'i gilydd fel eglwysi. Felly fe gymerasom y syniad o’r parti goleuni a’i dyfu’n daith llusern o gwmpas y dref.

Who is the Light?

Dewisasom dri lleoliad i’w defnyddio, a threfnu gweithgareddau gwahanol ym mhob safle ar gyfer teuluoedd. Ar yr hysbyseb, dywedasom y gallai plant (ac oedolion!) wisgo beth bynnag oeddynt ei eisiau – cyrhaeddodd un o’r hogiau wedi gwisgo fel ghost buster, ac roedd wedi cynhyrfu o weld bod un o’r arweinwyr yn gwisgo crys-t Ghostbuster gyda’r slogan enwog; ‘I ain’t afraid of no ghosts!’ arno. Gofynasom hefyd i bobl ddod a llusern brethyn cartref gyda nhw. Roeddem wedi rhannu rhai syniadau ynghylch sut i wneud llusern drwy ein tudalen cyfrwng cymdeithasol ac fe ddarparasom oleuadau te batri i bob person roi yn eu llusern. Daethom a llusernau ychwanegol hefyd rhag ofn bod pobl heb gael amser i wneud rhai fel nad oedd neb yn cael eu gadael allan.

Daethom at ein gilydd i’r lleoliad cyntaf yn un o’r eglwysi a oedd wedi ei oleuo gan nifer fawr o oleuadau te batri a goleuadau bach a oedd wedi eu prynu o nifer o siopau rhad a’u benthyg gan aelodau eglwysig. Bwytasom gŵn poeth yno, chwaraeasom rai gemau a dawnsio i gerddoriaeth. Yna fe aethom drwy bamffled SU's 'Pwy yw’r Goleuni?’ Heliodd y teuluoedd eu hunain gyda'i gilydd, dal yn eu llusernau a theithio ymlaen i’r lleoliad nesaf.

Ice cream cone

Roedd yn olygfa gwych gweld oddeutu 50 o blant, pobl ifanc ac oedolion yn cerdded ar hyd y stryd fawr gyda’u llusernau! Stopiodd llawer o bobl i syllu a holi pwy oeddem ni a beth oeddem ni’n ei wneud!

Caffi ar y stryd fawr sy’n cael ei redeg gan deulu Cristnogol oedd yr ail leoliad, oedd wedi gosod eu lle yn barod a darparu cynhwysion i bawb wneud eu syndi hufen ia bach eu hunain – a do, fe ddywedais i pawb! Roedd un o aelodau ifanc yr eglwys honno wedi paratoi caneuon addoli gyda symudiadau, felly wedi i bawb fwyta eu hufen ia, cawsom gyfle i ganu, dawnsio ac addoli’r Arglwydd. Ymunodd teuluoedd nad oedd yn mynychu eglwys yn hyn hefyd!

fire

Ein lleoliad olaf oedd y traeth – fel dywedais eisoes, mae’r dref wedi ei fendithio gyda sawl lleoliad arbennig gan gynnwys y traeth! Daethom at ein gilydd ychydig ymhellach ymlaen o le mae baner cenhadaeth traeth SU yn hedfan am bythefnos ym mis Awst pan gynhelir y Clwb Gwyliau, ac yno roedd coelcerth (wedi ei warchod yn dda iawn!)! Daeth y teuluoedd o gwmpas y goelcerth i dostio malws melys a threulio amser gyda'i gilydd.

A dweud y gwir, bu cryn waith trefnu i gynnal y digwyddiad yma, fel pob digwyddiad arall. Llwyddasom i hel llawer o wirfoddolwyr o eglwysi gwahanol i helpu i baratoi bwyd a gwarchod y plant wrth iddynt gerdded o un lleoliad i’r llall. Does dim angen traeth arnoch i gynnal y digwyddiad yma, does dim hyd yn oed angen mwy nac un lleoliad. Gallech wneud gorymdaith o lusernau i lawr eich stryd leol neu o amgylch eich adeilad! Beth wnaeth fy nharo i fwyaf o gynnal y digwyddiad oedd y ffaith bod teuluoedd nad ydynt fel arfer yn gwneud llawer gydag eglwys wedi dod am eu bod eisiau cael rhywbeth gwahanol i ddigwyddiad Calan Gaeaf arferol. Roeddem wedyn yn gallu eu gwahodd i ddigwyddiadau eraill ar gyfer teuluoedd o amgylch y Nadolig. Am amser arbennig o’r flwyddyn i siarad am Oleuni Iesu ac arwain at ddyfodiad Iesu fel babi yn ystod cyfnod y Nadolig.

Support Worker Wales

Rachel Settatree (Cymraeg)

Gweithiwr Cymorth

Mae Rachel wedi bod yn gweithio fel gweithiwr Ieuenctid, Plant a Theuluoedd gyda’n Partner Cenhadol Lleol, Trobwynt, am 12 mlynedd cyn ei hapwyntio yn Weithiwr Cymorth ar gyfer tîm Cymru. Mae hi’n siarad Cymraeg yn rhugl ac yn edrych ymlaen at helpu’r tîm i ddatblygu eu rhwydwaith o bartneriaid cenhadol, gwirfoddolwyr a chefnogwyr ar draws Cymru.
Mae hi wedi priodi John – mae ganddyn nhw ddwy ferch a chi ac maent yn byw yng Ngogledd Cymru.

Adnoddau Parti Goleuni

SU Cymru Team

Cymorth i redeg Parti Goleuni

Os buasech yn hoffi cael cymorth i redeg Taith Llusern neu Parti Goleuni yn eich hardal cysylltwch â un o’r tîm – buasem yn falch o’ch helpu mewn unrhyw fodd. Dilynwch y linc isod i gyfarfod y tîm ac am wybodaeth cyswllt.

Details

Language:
  • Welsh/Cymraeg
  • Seasonal:
    • Halloween,
    • Harvest
    Topic:
    • Community
    Collection:
    • Light party
    SU and Me:
    • Volunteering
    Purpose:
    • Outreach
    Context:
    • Church & Community

    The 95 block

    Together, we can reach the 95% of children and young people not in church

    Join us